Pam ydw i'n dysgu Cymraeg?

Sep 03, 2010 16:07

Mae'r ateb yn John Barrowman. Oedd popeth yn dechrau gyda fe. O'n i'n gwylio Doctor Who newydd (Chris Eccleston Doctor) ac yna oedd e, fel Capten Jack Harkness. Felly, wnes i glywed am Torchwood ac oedd rhaid i fi ei weld hi. Wedyn, wnes i moyn gwybod popeth am John Barrowman, ond mae hynny'n stori arall.

Felly, o'n i'n hoffi Torchwood yn fawr iawn (dal i wneud) ac yn moyn gweld Caerdydd yn fyw. Wnes i ddechrau cynllunio ymweliad â Chaerdydd. Wnes i ddim gwybod dim byd am Gymru ar y pryd hynny. Felly, wnes i fynd chwilio a dod o hyd i Gymraeg.

Pan dw i'n mynd dramor, dw i'n moyn gallu dweud rhywbeth yn yr iaith lleol. Wrth gwrs, doedd dim rhaid i fi siarad Cymraeg pan wnes i fynd i Gaerdydd. Ond, o'n i wedi dechrau dysgu Cymraeg a do'n i ddim yn mynd i gwpla.

pethaubychain, cymraeg

Previous post Next post
Up