[This is a review in Welsh of the above book, which was a reread. A translation in Enlish will be posted shortly.]
Nansi’r Dditectif: O. Llew. Rowlands & W.T. Williams, Gwasg y Brython, Mai 1953.
Roeddwn i wedi bwriadu ailddarllen y llyfr hwn i blant ers tro, i ddilyn lan ar yr amheuon sydd wedi aros gyda fi ers i fi ei ddarllen am y tro cyntaf (rhyw ugain mlynedd yn ôl.) Mae’n gyfrol denau a enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod 1935, pan awgrymwyd y dylai gael ei chyhoeddi. Felly y bu’r flwyddyn wedyn, ym 1936, pedwerydd argraffiad yw fy nghopi i. O. Llew. Rowlands a W. T. Williams yw’r awduron, a’r olaf yn gyfrifol am y darluniau.
Ond pan fo sôn am dditectif yn ei harddegau o’r enw Nansi mewn llenyddiaeth i blant, mae fy meddwl i’n sicr yn troi at gochen o fri o’r Unol Daleithiau. Mae cyfenw Nansi Puw yn odli gyda chyfenw’r arwres llawer enwocach. Rhanna’r ddwy Nansi nodweddion eraill, wedi marwolaeth eu mamau, magwyd y ddwy ohonynt gan eu tadau, sy’n dwrneiod ill dau ac yn fawr eu dylanwad yn eu milltiroedd sgwâr. Mae gan Nansi’r Gymraes forwyn o’r enw Hannah (Parry) sef yr un enw cyntaf â howscipar Nancy Drew.
Awgrymog, on’d yw e? Nawr nid oes arlliw o sôn mai addasiad yw ‘Nansi’r Dditectif’ a dydw i ddim yn cofio tebygrwydd â phlot penodol, er nad wy’n honni fy mod wedi darllen pob un o anturiaethau Nancy Drew ac mae wedi bod yn oesoedd ers i fi ddarllen un ohonynt. Ond mae’n hynod ddiddorol bod cymeriad ag enw ac amgylchiadau mor debyg wedi dod i feddwl deuddyn o Gymru pum mlynedd wedi ymddangosiad Nancy Drew dros yr Iwerydd. Ond, hyd y gwelaf i, ni chyhoeddwyd llyfrau Nancy Drew yn y Deyrnas Gyfunol tan 1954.
Ac i fod yn deg, mae Nansi’r dditectif yn real Gymraes. Yn y bennod gyntaf dysgwn ei bod hi’n byw yn Nhrefaes (tref dychmygol sy’n gallu cynnal cyfreithwyr.) Mae Nansi yn gapelwraig frwd ac yn mynychu’r Ysgol Sul, ond yn bwysicach i’r plot yn un mawr am Urdd Gobaith Cymru, pethau nodweddiadol Gymraeg. Wedi dweud hynny, mae hi’n fwy dosbarth canol nag arwresau arferol llenyddiaeth Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Er ei bod hi’n beirniadu Gwen a Pegi Morus ffroenuchel am fod yn ‘snobyddol’, mae hi’n ymwybodol iawn o statws pobl.
Felly, beth yw’r dirgelwch yn y stori? Wedi marwolaeth Joseff Dafis, mae Trefaes gyfan yn methu â chredu ei fod wedi gadael ei holl eiddo i’r Morusiaid. Roedd y teulu wedi cynnig llety i’w perthynas cyfoethog, ond nid cartref. Gall Nansi gredu hyn am ei bod hi’n mynd i’r ysgol gyda Gwen a Pegi ac yn gwybod eu bod yn ferched annymunol. Y si yn Nhrefaes yw ei fod wedi llunio ewyllys diweddarach yn eu torri allan oherwydd eu triniaeth ohono, gan adael y swm sylweddol i aelodau eraill o’i deulu a phobl oedd yn wir gyfeillion iddo. Mae Nansi yn benderfynol o ddarganfod yw hyn yn wir. Nid yw’r dirgelwch yn gymhleth iawn, a does dim llawer o gliwiau, dim ond rhai sy’n profi bod tuedd Joseff Dafis iat gyfrinachedd bron yn drech na’i fwriadau.
Mae’r iaith yn fwy henffashiwn nag yw mewn llyfrau cyfoes yn y Saesneg. Yn fwyaf trawiadol, mae’r ddeialog yn cynnwys toreth o ffurfiau cryno ac mae pawb yn cyfarch ei gilydd fel ‘chwi’ (ddim hyd yn oed ‘chi’,) gan gynnwys Nansi a’i thad a Nansi a chyfoedion. Rwy’n credu mai ceisio dylanwadu ar ddarllenwyr oedd yr awduron yma yn fwy na chyfleu sgwrs naturiol. Yr unig eiriau Saesneg sy’n ymddangos yw ‘bus’ a ‘safe’. Mae pawb yn Nhrefaes yn medru’r Gymraeg, yn ladron, yn enethod siop ac yn rheolwyr banc. Nodwedd arall i wneud inni ddrwglicio Gwen a Pegi Morus yw eu bod nhw’n siarad llediaith (na chofnodir.) Roedd peth o‘r eirfa yn hynod: ‘llythgludwr’ am ddyn post, ‘dyddlyfr’ yn lle dyddiadur, a ‘borefwyd’ ochr yn ochr â ‘brecwast’. Mae peth o’r orgraff yn henffashiwn hefyd ‘tuagat’ yn un gair, ac mae yna wallau atalnodi ac ati.
Er bod yr awduron yn amlwg eisiau portreadu eu harwres fel creadur siriol, bywiog, hoffus a gwrol, mae disgrifiad Gwen Morus ohoni yn ddigon gwir: ‘Mae ganddi erioed ryw reddf am gael ei hunan i fusnes pobl eraill na wnelo hi ddim â hwy.’ (t.44) Mae bod yn fusneslyd yn anochel mewn ditectif, wrth gwrs, ac wrth glustfeinio a mynd i fannau nad oes wir hawl ganddi i wneud llwydda Nansi i ddatrys y dirgelwch. Does dim cysylltiad uniongyrchol ganddi â’r achos tan iddi gwrdd â dwy ferch fyddai’n wir ar eu hennill pe caent ychydig o arian Joseff Dafis. Mae hi ond yn ymddiddori ynddo am ei bod hi’n cytuno â’r farn gyffredinol.
Ro’n i’n arbennig o feirniadol ohoni yn pallu rhannu ei bwriadau gydag Eurona (Rona) Lloyd, sydd i fod yn ffrind gorau iddi, ond gwell gan y Nansi hon fynd i chwilota ar ei phen ei hun (yn wahanol i’r Nancy arall, er mai enw un o’r cymeriadau yw ‘Besi’) ac adrodd yr hanes i’w thad wedyn. Fel canlyniad, mae hi’n peryglu ei hun ar ddau achlysur.
This entry was originally posted at
https://feather-ghyll.dreamwidth.org/184110.html. Please comment wherever you prefer to.