Whee! "Hanes Cymru!"

Aug 14, 2007 17:47

Dw i'n for hapus! Pan es i i Gymru er mwyn mynd i'r Eisteddfod yn 2005, nes i ffeindio pabell Cyngor Llyfrau Cymru -- pabell ardderchog. Nes i dreulio digonedd o arian.

Ond tra fod yna, nes i ofyn i'r ariannwr os oedd ganddynt y fersiwn Cymraeg o "A History of Wales."

Nag oedd. :-( Eto -- nes i glywed y gair "ailargraffiad" am y tro cynta. :-)

Wel, gafodd yr ailargraffiad ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni. A nes i sgwennu i siop llyfrau yng Ngogledd America sy'n gwerthu llyfrau am Gymru neu yn Gymraeg.

Beth bynnag, mae gen i fersiwn gymraeg o'r diwedd! Mae'n rhyfeddol y fedra' i'w ddarllen.

A nes i ffeindio gair ffantastig neithiwr, pan es i i'r ty bwyta ger fy fflat gyda'r llyfr. (Dw i'n hoffi mynd i dy bwyta ar fy mhen fy hun gyda llyfr.)

"Datguddiadau." Ocei, dw i wedi gweld "dat-" eisoes -- datganoli, datblygu. Dw i wedi sylwi bod llwyth o eiriau yn dechrau "dat-." Ond doedd gen i ddim syniad beth mae hi'n ei olygu.

Ond yn y frawddeg, oedd hi'n glir iawn bod y gair yn golygu "discoveries." A dw i'n gwybod mae "cuddio" ydy "hide." "Cover."

"Dat-" ydy "dis-." "De-." "Dat-guddiad" ydy "dis-cover," yn llythrennol.

Datganoli = "decentralize." Devolution! Datblygu ydy ... "develop?" Huh? *yn agor y geiriadur i chwilio am "plygu"*

"Fold." Datblygu = "unfold." "Bloom," tipyn bach.

Dim o gywilydd i ddweud a nes i syrthio i gysgu gyda gwen ar fy wyneb neithiwr. :-)

Damn, ond dw i'n caru'r iaith ma.
Previous post Next post
Up